Cyngerdd Carnifal yr Anifeiliaid gan Saint-Saëns

17 Hydref  2021, 6:30pm, Cyngerdd Rhithiol

Linc i’w wylio ar gael yma o 6.30pm nos Sul, 17 Hydref 2021

Yn hytrach na gwerthu tocynnau, gofynnwn am roddion os gwelwch yn dda.

Mae’r cyngerdd yma yn ran o brosiect addysgiadol yr Wyl mewn partneriaeth gyda un o noddwyr yr Wyl, Roberts of Portdinorwic, wedi ei  ariannu gan Gynllun Culture Step, Celfyddydau a Busnes Cymru.

Hoffech chi gefnogi gwaith elusen Canolfan Gerdd William Mathias, trefnwyr Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru?

Glian Llwyd (piano)

Graddiodd Glian Llwyd gyda B.Mus (anrhydeddym Mhrifysgol Bangor yn 2005 a derbyniodd radd 
Meistr mewn perfformio ar y piano Goleg Cerdd Trinity, Llundain yn 2008. Mae Glian wedi dilyn 
gyrfa fel pianydd llawrydd gan gyfeilio yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen, Eisteddfod 
Genedlaethol Cymru, Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Gregynog, ac ym Mhrifysgol Bangor. 

Teleri-Siân (piano)

Wedi graddio o Goleg Cerdd Frenhinol y Gogledd ym Manceinion, mae Teleri-Siân wedi perfformio fel unawdydd dros Brydain, Ewrop, yn Hong Kong ac America. Dros y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi datblygu diddordeb mewn gweithiau newydd i’r piano. Uchafbwynt diweddar – cyn y pandemig – oedd rhoi’r perfformiad cyntaf o Gonsierto Piano Nicholas Simpson. Mae hi’n dysgu ym Mhrifysgol Bangor, Junior RNCM a Chanolfan Gerdd William Mathias, lle buodd yn ran o sefydlu canghennau Dinbych a Rhuthun. Mae Teleri-Siân hefyd yn ieithydd. Mae ganddi radd Meistr mewn Ieithoedd Modern ac yn siarad Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg. Mae hi’n byw yn Sir Ddinbych gyda’i gwr a’u plant, Llion a Mali.

Elin Taylor (cello)

Cerddor llawrydd yw Elin Taylor yn byw yn Fangor, Gwynedd. Graddiodd Elin o Brifysgol Caerdydd 
gyda dosbarth cyntaf mewn cerddoriaeth a dderbyniodd ysgoloriaeth i ddatblygu ei hastudiaethau 
chyflawni ei radd meistr gyda rhagoriaeth. Mae Elin yn mwynhau gyrfa lawrydd amrywiol fel 
Sielyddathrawesarweinydd gweithdy greadigol a chynhyrchydd recordio yn ei stiwdio ar Ynys 
Môn.