Rydym wedi bod yn monitro’r sefyllfa bresennol gyda Covid-19 ac wedi penderfynu aildrefnu’r ŵyl i 15 – 18 Hydref 2021. Dysgu Mwy
Gŵyl Biano
Ryngwladol Cymru
15 – 18 Hydref 2021
Am yr Ŵyl
Wedi ei threfnu gan Canolfan Gerdd William Mathias ac o dan gyfarwyddyd artistig y pianydd rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones, bydd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2021 yn cynnwys tair prif elfen – perfformiadau, cystadlaethau a gweithgareddau addysgol.
Bydd yr ŵyl yn talu teyrnged i Ludwig van Beethoven a’i gyfraniad aruthrol i fyd y piano yn y flwyddyn sy’n nodi 250 mlynedd ers ei eni. Bydd themâu eraill yr ŵyl yn cynnwys cerddoriaeth yr 1920au a hyrwyddo cerddoriaeth newydd o Gymru.
Edrychwn ymlaen at groesawu Noddwr Anrhydeddus yr Ŵyl a dehonglwr nodedig cerddoriaeth Beethoven, John Lill CBE i roi datganiad agoriadol yr Ŵyl.
Noddwr Anrhydeddus: John Lill CBE
Llywydd Anrhydeddus: John Metcalf MBE

Ein Cystadlaethau
Cystadleuaeth Piano Unawdol Iau
Agored i bianyddion a aned ar neu ar ôl 1 Medi 2001
Cystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn
Agored i bianyddion a aned ar neu ar ôl y 1af o Fedi 1993
Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano
Dim cyfyngiad oedran
Cyngherddau
Byddwn yn cyhoeddi diweddariad o raglen yr Ŵyl yn fuan.

Noddi Nodyn!
Os hoffech chi wneud cyfraniad ariannol tuag at Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2021, pam na wnewch chi Noddi Nodyn!
Fe allwch chi ddewis unrhyw nodyn ar y piano – efo cyfanswm o 88 mae digon ohonynt! Ai C♯ neu B♭ fyddwch chi!?
Y Newyddion Diweddaraf
Llwyddiant ein “Diwrnod Piano” Rhithiol
Ar ôl y Diwrnod Piano hynod lwyddiannus y llynedd roeddem yn benderfynol o beidio â gadael i’r sefyllfa bresennol gyda Covid-19 ein trechu, felly dyma ni’n trefnu Diwrnod Piano ar-lein eleni. Roedd yr ymateb yn galonogol iawn gyda 65 o berfformiadau gan bianyddion o...
COVID-19: Newid i ddyddiadau’r Ŵyl
Diweddarwyd ar 14 Rhagfyr 2020. Rydym wedi bod yn monitro'r sefyllfa bresennol gyda'r Coronafirwss ac wedi penderfynu na fydd bwrw ymlaen â Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru ar y dyddiadau newydd ym mis Mai yn mynd i fod yn ymarferol oherwydd parhad cyfyngiadau a'r...
Diwrnod Piano
Cawsom Ddiwrnod Piano penigamp ym Mhrifysgol Bangor ganol mis Tachwedd gyda dros 100 o berfformiadau. Daeth y pianyddion blaenllaw Emyr Roberts, Evgenia Startseva a Gareth Owen i wrando a rhoi adborth i’r perfformwyr. Cawsom sesiwn Holi ac Ateb diddorol a goleuedig...
Cadw Mewn Cyswllt
Ein Noddwyr







Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr cerddoriaeth yn ei chanolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun a drwy ei phrosiectau cymunedol drwy Gymru.