Ein lleoliad hardd

Cynhelir Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru yng nghanolfan gelfyddydau eiconig Galeri, wedi ei leoli yn nhref arfordirol Caernarfon yng Ngogledd Cymru.

Ein Lleoliad

Ynghyd â bod yn fan poblogaidd ar gyfer gwyliau, mae Gogledd Cymru yn ardal gyfoethog o ran iaith, cerddoriaeth a hanes. Mae’r golygfeydd yn wych – o lannau môr braf, afonydd byrlymog ac wrth gwrs mynyddoedd, llynnoedd a’r rhaeadrau Eryri.

Mae Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru wedi ei leoli yn nhref arfordirol Caernarfon. Castell Caernarfon o bosib yw’r mwyaf enwog o holl gestyll Cymru, a daw nifer o ymwelwyr pob blwyddyn i Gaernarfon i fwynhau harddwch a treftadaeth yr ardal.

Caiff yr ŵyl ei gynnal yn nghanolfan celfyddydau Galeri, sydd yn llai na thafliad carreg y tu allan i furiau hynafol y dref ac yn cynnig golygfeydd anhygoel o’r môr ynghyd â bod yn ganolog i gyfleusterau lleol.

Mae mynediad hygyrch i’r adeilad o ran parcio, toiledau ar gael ar pob llawr, mynediad i gadeiriau olwyn, caffi, ac mae’r adeilad yn croesawu cŵn tywys.

Dewch o hyd i ni

Trwy’r Awyr

Y meysydd awyr rhyngwladol agosaf yw Manceinion a Lerpwl John Lennon. Yna mae’n bosib mynd ar drên i Fangor (Gwynedd), yna tacsi neu bus i Gaernarfon.

Os byddwch chi’n cyrraedd unrhyw feysydd awyr yn Llundain, mae’n bosib cael trên o Lundain Euston i Fangor (Gwynedd), yn uniongyrchol neu gyda newidiadau yng Nghaer.

Trafnidiaeth Cyhoeddus

Yr orsaf drenau agosaf yw Bangor, ac mae bysiau yn teithio’n gyson i Gaernarfon. Gellir canfod yr amserlen fysiau ar wefan Traveline Cymru.

Gyda Char

O’r A55 cymerwch gyffordd 10 a dilyn y A487 i Gaernarfon. Pan fyddwch yn dod i mewn i’r dref, cymerwch y troad cyntaf ar y gylchfan wrth ymyl Morrisons. Ar yr ail gylchfan cymerwch y trydydd troad gan ddilyn yr arwyddion i Doc Fictoria.

Parcio

Mae parcio talu ac arddangos arhosiad byr ar gael o flaen yr adeilad Galeri ynghyd â meysydd parcio anabl. Mae meysydd parcio talu ac arddangos i’w gael hefyd gyferbyn â’r adeilad Galeri, ac ar waelod y ffordd is law i archfarchnad Morrisons.

Teithio I Gymru a Chofid-19

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb am leihau’r risg o ledaenu Covid19 o ddifri a bydd gennym weithdrefnau amrywiol ar waith y byddwn yn eu rhannu gyda chi yn llawn cyn i chi gyrraedd. Cyfrifoldeb pob cystadleuydd yw sicrhau ei bod yn cydymffurfio â rheolau a chyfyngiadau teithio Cymru mewn perthynas â mynychu’r ŵyl. Sylwch, fel cenedl ddatganoledig, mae rhai o reolau Covid Cymru yn wahanol i Loegr a gwledydd eraill y DU.