Cyngerdd Comisiynau’r Ŵyl & Beethoven Archduke Trio

16 Hydref 2021, 7:30pm, Cyngerdd Rhithiol

Rhan 1: Gweithiau Comisiwn yr Ŵyl
Joseph Davies – ap Huw Sampler
Bethan Morgan-Williams – Cusan Aderyn
Pwyll ap Sion – Die verrückten mädchen von
Sarah Lianne Lewis – Clychau

Rhan 2: Beethoven – Archduke Trio

Artistiaid: Sara Trickey (ffidil), Sebastian Van Kuijk (sielo), Iwan Llewelyn-Jones (piano), Alys Roberts (soprano)

Linc i’w wylio ar gael yma o 7.30pm nos Sadwrn, 16 Medi 2021

Yn hytrach na gwerthu tocynnau, gofynnwn am roddion os gwelwch yn dda.

Hoffech chi gefnogi gwaith elusen Canolfan Gerdd William Mathias, trefnwyr Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru?

Iwan Llewelyn-Jones (piano)

Adnabyddir Iwan Llewelyn-Jones fel un o bianyddion blaenllaw ei genhedlaeth. Mae wedi 
perfformio yn rhai o neuaddau enwocaf y byd gan gynnwys Neuadd Wigmore, Leipzig 
Gewandhaus, Tŷ Opera Sydney, a Neuadd Dewi Sant. Mae wedi derbyn sawl anrhydedd, gan 
gynnwys Gwobr Syr Geraint Evans er clod am ei gyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Gymraeg.

Sara Trickey (ffidil)

Mae Sara Trickey yn mwynhau gyrfa gyffrous ac amrywiol fel unawdydd feiolin a cherddor siambr. 
Yn enwog am ei pherfformiadau “fiery and passionate” (The Strad) a “beautifully refined tone” 
(Musical Opinion), mae hi’n perfformio mewn nifer o Ŵyliau blaenllaw y DU, gan gynnwys y 
Presteigne, Alwyn, Oxford May Music, Efrog, Gŵyliau Cerddoriaeth Siambr Ashburton a Wye 
Valley. Mae hi’n chwarae’n rheolaidd gyda’r pianydd Dan Tong ac mae wedi recordio’r Schubert 
Sonatinas i ganmoliaeth uchel iawn (“Irresistible!” – Barry Millington). Rhyddhawyd CD o Fauré a 
David Matthews yn ddiweddar gan Deux-Elles. Gwnaeth recordiad o berfformiad byd 1af o sonatâu 
ffidil William Mathias gydag Iwan Llewelyn Jones. 

Sebastian Van Kuijk (sielo)

 

Alys Mererid Roberts (soprano)

Mae Alys yn soprano sy’n hannu yn wreiddiol o Roslan ger Cricieth. Ennillodd Alys ysgoloriaeth yr Is-Ganghellor i astudio ym Mhrifysgol Durham cyn mynd yn ei blaen i astudio cwrs Meistr mewn canu yn Academi Frenhinol Gerdd Llundain ac yna ymuno â’r Ysgol Opera. Mae wedi canu rhannau Chocholka a Pepík (The Cunning Little Vixen), Edith (The Pirates of Penzance), Annina (La traviata), Tweedledee  (Alice’s Adventures in Wonderland, Will Todd) a Tiny Tim / Fan (A Christmas Carol, Will Todd) gyda Opera Holland Park, Polly Peachum (The Beggar’s Opera) a Shepherd Boy (Tosca) gyda Opera Canolbarth Cymru, Yum Yum (The Mikado) Josephine (H.M.S. Pinafore) gyda Charles Court Opera, Adina (L’elisir d’amore) gyda Opera’r Ddraig, Lled-Gorws (Gair ar Gnawd, Pwyll ap Siôn) a’r Awen (Hedd Wyn, Stephen McNeff) gyda Opera Cenedlaethol Cymru, ac wedi eilio rhan Slave (Salome) yn English National Opera.  

Cyfansoddwyr – Composers

Joseph Davies

Yn enedigol o Gaerdydd, mae’r cyfansoddwr Joseph Davies bellach wedi ymgartrefu yn Llundain. Mae wedi ei ddisgrifio fel “one of the brightest of rising stars” (Bernard Clarke, RTÉ), ac mae ei gerddoriaeth wedi ei berfformio a’i ddarlledu ledled Ewrop ac UDA. Ymhlith y comisiynau mae sawl darn ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’n ddarlithiwr cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 2013 ac mae ei waith wedi ei gyhoeddi gan Birdsong a Chester Music.

Bethan Morgan-Williams

Mae Bethan Morgan-Williams (1992-) yn gyfansoddwr sy’n ysgrifennu cerddoriaeth hynod-gywrain a rhythmig. Disgrifiwyd

fel “rhyfeddol o oblique ac aneglur” [5against4] wrth gael ei “wreiddio mewn rhywbeth hynafol a gwerin” [The Telegraph],

Mae cerddoriaeth Bethan yn canfod cymhelliant yn yr apogee o berfformiad cerddorol.

 

Pwyll ap Siôn

Mae Pwyll ap Siôn yn gyfansoddwr, cerddolegwr ac Athro yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor. Mae ei gerddoriaeth wedi derbyn perfformiadau gan rai o gerddorion amlycaf Cymru, gan gynnwys Bryn Terfel, Llŷr Williams, Iwan Llewelyn-Jones ac Elin Manahan Thomas. Perfformiwyd ei opera gymunedol Gair ar Gnawd yn Theatre Ffwrnes, Llanelli mewn cynhyrchiad gan Opera Genedlaathol Cymru i libreto gan Menna Elfyn yn 2015. Fe gafodd ei gylch caneuon Chaotic Angels, gosodiad o gerddi gan Gwyneth Lewis, berfformiad cyntaf gan y soprano Celine Forrest a cherddorfa WNO o dan Lothar Koenigs yn Neuadd Dewi Sant yn 2016. Mae wedi ysgrifennu a golygu nifer o lyfrau ac yn cyfrannu’n reolaidd i gylchgrawn Gramophone.

 

Sarah Lianne Lewis

Mae Sarah Lianne Lewis yn gyfansoddwraig Cymreig. Mae ei cherddoriaeth yn o feiddgar a dychmygus, ac yn archwilio’r byd naturiol a’n bodolaeth ddynol, wedi’i lywio gan safbwynt benywaidd anabl. Ar hyn o bryd mae hi’n Gyfansoddwr Cysylltiedig â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cyfansoddwr RPS 2021-22, a Chymrawd Classical:NEXT 2022.