Cystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn

Agored i bianyddion a aned ar neu ar ôl y 1 Medi 1993

Canlyniadau

1af – Tomos Boyles – £3,000 rhoddedig gan Roberts of Portinorwic

2il – Ellis Thomas – £1,000 rhoddedig gan Japes a Gina Withinshaw

Ymgeiswyr Cylch Terfynol – Luke Jones & Connor Heraghty £350 yr un gan Elizabeth Lyon a’r diweddar Dr Stewart Lyon

Perfformiad gorau o ddarn gan Beethoven: Connor Heraghty – £300 rhoddedig gan Gareth Roberts

Perfformiad gorau o ddarn wedi ei cyfansoddi ar ôl 1950: Tina Pik-Ying Cheung – £300 rhoddedig gan Geoff and Marian Leeming

Beirniaid: Geraint Lewis, Roy Howat & Robert Markham

Prawf Cychwynnol

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau newydd 6pm 17 Ionawr 2021.

Ymgeiswyr i gyflwyno recordiad heb ei adolygu o gerddoriaeth piano unawdol heb fod yn hwy na 8 munud o hyd.

Gwahoddir uchafswm o 20 pianydd i gymryd rhan yn y prawf rhagbrofol.

Prawf Rhagbrofol

17 Hydref, 2021 – Stiwdio 1, Galeri

9:00 – 13:00 & 14:00 – 16:15

Gofynion: Rhaglen o gerddoriaeth piano unawdol, heb fod yn hwy na 15 munud, yn cynnwys:

  • Symudiad o un o’r Sonatas i biano unawdol gan Ludwig van Beethoven
  • Ymarferiad (study) o waith Chopin, Liszt, Debussy, Scriabin, Rachmaninov, Ligeti, Kapustin neu Dusapin.

Gwahoddir pedwar pianydd i gymryd rhan yn y prawf terfynol.

Dim tâl mynediad, dewch draw i wylio.

Prawf Terfynol

18 Hydref 2021 – Theatr, Galeri

11:15 – 13:15 

14:15 : Cyflwyno Gwobrau

Gofynion:
Rhaglen o gerddoriaeth piano unawdol heb fod yn hwy na 25 munud, yn cynnwys gwaith a gyfansoddwyd yn ystod neu ar ôl 1950. Ni chaniateir cynnwys unrhyw waith a berfformiwyd yn y Prawf Rhagbrofol.

Tocynnau i Wylio’r Cylch Terfynol

Rheolau

  • Mae’r holl gystadlaethau ar agor i bianyddion o bob gwlad trwy’r byd.
  • Nid oes modd i bianyddion gystadlu yn y ddwy gystadleuaeth unawdol – rhaid dewis naill a’i yr Unawd Piano Iau neu’r Unawd Piano Hŷn. Ond mae modd i rai sy’n cystadlu yn unawdol gystadlu yn y gystadleuaeth gyfeilio yn ogystal ond bydd angen talu’r ffi gystadlu ar gyfer y ddwy gystadleuaeth.
  • Bydd dyfarniadau’r Beirniaid yn derfynol, ac ni ellir eu herio. Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i atal gwobrau neu leihau y nifer o gystadleuwyr sy’n ymddangos yn y cylch terfynol y os nad yw’r safon yn ddigon uchel ym marn y mwyafrif o’r Beirniaid.
  • Cyn dyddiad agor yr Ŵyl, tynnir enwau’r cystadleuwyr allan o het gan banel annibynnol er mwyn penderfynu trefn y perfformiadau. Dilynir y drefn hon ym mhob Cylch o’r cystadlaethau.
  • Dylai’r recordiad ar gyfer y gystadlaethau unawdol fod yn recordiad heb ei olygu a dylid ei gyflwyno yn electronig wrth i chi wneud cais drwy ddarparu dolen i ni lawrlwytho neu wrando/gweld y recordiad ar wasanaeth rhannu ffeiliau e.e. WeTransfer, Dropbox, YouTube ayb. (Lle’n berthnasol sicrhewch bod y caniatâd rhannu ffeiliau priodol wedi eu gosod sy’n ein galluogi ni i weld/lawrlwytho eich ffeil).
  •  Dylid cynnwys llythyr o gymeradwyaeth gan diwtor presennol neu fwyaf diweddar yr ymgeisydd. Nid oes angen darparu recordiad ar gyfer y Gystadleuaeth Gyfeilio ond rhaid cynnwys llythyr o gymeradwyaeth efo’r cais.
  • Bydd modd ymgeisio o 1 Hydref 2019 ymlaen. Dyddiad cau ar gyfer ffurflenni cais a recordiadau fydd 17 Ionawr 2021 am 6pm.
  • Ffioedd cofrestru: Piano Unawdol Iau: £30; Piano Unawdol Hŷn a Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano: £40. Mae’r ffioedd yn cynnwys mynediad i holl weithgareddau’r Ŵyl ag eithrio datganiad piano John Lill.
  • Ad-deilr 75% o’r ffi gystadlu i’r ymgeiswyr sydd ddim yn cael eu gwahodd i ymddangos ym mhrofion rhagbrofol y cystadlaethau unawdol piano hŷn ac iau.
  • Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu dewis i ymddangos yn y profion rhagbrofol yn cael gwybod dim hwyrach na’r 15 Gorffennaf 2021.
  • Os yw ymgeisydd yn tynnu allan o’r gystadleuaeth am unrhyw reswm ni ad-delir y ffi gofrestru.

Gwobrau

  • Y Wobr Gyntaf: £3,000
  • Yr Ail Wobr: £1000
  • 2 ymgeisydd terfynol arall: £350 yr un
  • Gwobr am y perfformiad gorau o waith gan Ludwig van Beethoven: £300
  • Gwobr am y perfformiad gorau o waith a gyfansoddwyd yn ystod neu ar ôl 1950: £300