Cystadleuaeth Piano Unawdol Iau
Agored i bianyddion a aned ar neu ar ôl y 1 Medi 2001
Prawf Cychwynnol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau newydd: 6pm ar y 31 Mawrth 2021.
Gofynion: Ymgeiswyr i gyflwyno recordiad heb ei adolygu o gerddoriaeth piano unawdol heb fod yn hwy na 6 munud o hyd.
Gwahoddir uchafswm o 30 pianydd i gymryd rhan yn y Prawf Rhagbrofol.
Prawf Rhagbrofol
Cynhelir ar 16 Hydref 2021.
Gofynion: Rhaglen o gerddoriaeth piano unawdol, heb fod yn hwy na 10 munud, yn cynnwys darn a gyfansoddwyd yn ystod neu cyn 1828.
Gwahoddir pum pianydd i gymryd rhan yn y Prawf Terfynol.
Prawf Terfynol
Cynhelir 17 Hydref 2021.
Gofynion: Rhaglen o gerddoriaeth piano unawdol heb fod yn hwy na 15 munud, yn cynnwys gwaith a gyfansoddwyd yn ystod neu ar ôl 1950. Caniateir cynnwys un darn (hyd at 5 munud) a berfformiwyd yn y Prawf Rhagbrofol.
Rheolau
- Mae’r holl gystadlaethau ar agor i bianyddion o bob gwlad trwy’r byd.
- Nid oes modd i bianyddion gystadlu yn y ddwy gystadleuaeth unawdol – rhaid dewis naill a’i yr Unawd Piano Iau neu’r Unawd Piano Hŷn. Ond mae modd i rai sy’n cystadlu yn unawdol gystadlu yn y gystadleuaeth gyfeilio yn ogystal ond bydd angen talu’r ffi gystadlu ar gyfer y ddwy gystadleuaeth.
- Bydd dyfarniadau’r Beirniaid yn derfynol, ac ni ellir eu herio. Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i atal gwobrau neu leihau y nifer o gystadleuwyr sy’n ymddangos yn y cylch terfynol y os nad yw’r safon yn ddigon uchel ym marn y mwyafrif o’r Beirniaid.
- Cyn dyddiad agor yr Ŵyl, tynnir enwau’r cystadleuwyr allan o het gan banel annibynnol er mwyn penderfynu trefn y perfformiadau. Dilynir y drefn hon ym mhob Cylch o’r cystadlaethau.
- Dylai’r recordiad ar gyfer y gystadlaethau unawdol fod yn recordiad heb ei olygu a dylid ei gyflwyno yn electronig wrth i chi wneud cais drwy ddarparu dolen i ni lawrlwytho neu wrando/gweld y recordiad ar wasanaeth rhannu ffeiliau e.e. WeTransfer, Dropbox, YouTube ayb. (Lle’n berthnasol sicrhewch bod y caniatâd rhannu ffeiliau priodol wedi eu gosod sy’n ein galluogi ni i weld/lawrlwytho eich ffeil).
- Dylid cynnwys llythyr o gymeradwyaeth gan diwtor presennol neu fwyaf diweddar yr ymgeisydd. Nid oes angen darparu recordiad ar gyfer y Gystadleuaeth Gyfeilio ond rhaid cynnwys llythyr o gymeradwyaeth efo’r cais.
- Bydd modd ymgeisio o 1 Hydref 2019 ymlaen. Dyddiad cau ar gyfer ffurflenni cais a recordiadau fydd 31 Mawrth 2021 am 6pm.
- Ffioedd cofrestru: Piano Unawdol Iau: £30; Piano Unawdol Hŷn a Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano: £40. Mae’r ffioedd yn cynnwys mynediad i holl weithgareddau’r Ŵyl ag eithrio datganiad piano John Lill.
- Ad-deilr 75% o’r ffi gystadlu i’r ymgeiswyr sydd ddim yn cael eu gwahodd i ymddangos ym mhrofion rhagbrofol y cystadlaethau unawdol piano hŷn ac iau.
- Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu dewis i ymddangos yn y profion rhagbrofol yn cael gwybod dim hwyrach na’r 8 Chwefror 2021.
- Os yw ymgeisydd yn tynnu allan o’r gystadleuaeth am unrhyw reswm ni ad-delir y ffi gofrestru.
Gwobrau
- Y Wobr Gyntaf: £700
- Yr Ail Wobr: £300
- 3 ymgeisydd terfynol arall: £100 yr un
- Gwobr arbennig ar gyfer y pianydd mwyaf addawol na lwyddodd gyrraedd y Prawf Terfynol: £100
Sut i Ymgeisio
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 31 Mawrth, 2021 am 6:00pm. Ewch i’r adran ‘Rheolau’ am ragor o wybodaeth am y broses o ymgeisio.