Ar y Gorwel: Gwenno Morgan

Dydd Sadwrn, 16 Hydref, 3:30 – 4:15pm, Cyntedd Galeri

Cyfres o gyfansoddiadau breuddwydiol a minimalistig – yn cynnwys trefniannau o alawon gwerin Cymreig, ynghyd â darnau gwreiddiol sinematig oddi ar ei EP cyntaf, CYFNOS.

Mae Gwenno, 22, yn bianydd a chyfansoddwr o Fangor. Derbyniodd wersi piano yng Nghanolfan Gerdd William Mathias gan y diweddar Ben Muskett, Sioned Webb ag Iwan Llewelyn-Jones. Wedi derbyn gradd Dosbarth Cyntaf o Brifysgol Leeds eleni, mae hi newydd ddechrau cwrs Meistr mewn ‘Cyfansoddi a Chynhyrchu’ yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain.

Synau sinematig, ynghyd â cherddoriaeth jazz a gwerin oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl ei chyfansoddiadau. Mae’r perfformiad heddiw yn cynnwys gweithiau oddi ar ei EP cyntaf, Cyfnos, gafodd ei ryddhau ’nôl ym mis Ebrill ar label recordiau I KA CHING, yn ogystal â darnau gwreiddiol a threfniannau eraill.