Cyngerdd Agoriadol yr Ŵyl: Llŷr Williams

Ar gael o 7:30pm, 15 Hydref, tan 10:00pm, 18 Hydref 
(ar gael i wylio unrhyw bryd o 7:30pm ar 15 Hydref – 10:00pm ar 18 Hydref), Cyngerdd Rhithiol

Edmygir y pianydd o Gymru Llŷr Williams yn eang am ei ddeallusrwydd cerddorol dwys, ac am natur fynegiannol a chyfathrebol ei ddehongliadau. Yn cael ei ystyried yn ddehonglwr arbennig o waith  Beethoven, mae wedi perfformio cylchoedd sonata cyflawn sawl tro, gan gynnwys yn Neuadd Wigmore a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac ym mis Mai 2020 recordiwyd cylch cyflawn ar gyfer Gŵyl Cultural de Mayo yn Guadalajara, Mecsico yn fyw o’i gartref yn Wrecsam gan Signum Records a’u darlledu mewn cyfres o ddarllediadau digidol. Mae Llŷr wedi parhau i berfformio ar-lein ac yn fyw trwy gydol y pandemig. Yn ogystal â chylch Beethoven, recordiodd nifer o ddatganiadau unawdol ar gyfer y BBC, yn ogystal â chydweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a  sawl ymddangosiad yn Neuadd Wigmore Llundain. Dechreuodd hefyd ar gyfres newydd o  6 datganiad o weithiau Chopin yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, fydd yn parhau yn ystod 2021-22.

Yn gyn Artist Cenhedlaeth Newydd y BBC ac enillydd gwobr Ymddiriedolaeth Borletti-Buitoni, ganwyd Llŷr Williams ym Mhentrebychan, Gogledd Cymru, ac astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen cyn ennill ysgoloriaeth i ddilyn cwrs ôl-radd yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Mae’n Gymrawd Anrhydeddus o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac yn 2017 dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru. Ar hyn o bryd mae hefyd yn Artist–mewn–cyswllt yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

© Hannan Images

Rhaglen:
Schubert: Impromptu D.935 No.2
Beethoven: Sonata Rhif 18 yn E feddalnod fwyaf
Chopin: Nocturne yn D feddalnod fwyaf Op.27 No.2
Chopin: Sonata no.2 yn B-feddalnod leiaf, op.35

Hoffech chi gefnogi gwaith elusen Canolfan Gerdd William Mathias, trefnwyr Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru?