Ar y 6ed o Ebrill 2016 bu cyfarwyddwr Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, y pianydd Iwan Llewelyn-Jones yn mynd ar y lôn gan gynnal perfformiadau byrfyfyr yng Ngogledd Orllewin Cymru. Gyda phiano goch wedi ei darparu gan Pianos Cymru a chymorth Ian Jones, ymwelodd Iwan â pedwar lleoliad – Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Siop Waitrose ym Mhorthaethwy, Canolfan Arddio Fron Goch ger Caernarfon ac archfarchnad Morrison’s yng Nghaernarfon, gan chwarae rhaglen amrywiol o gerddoriaeth o Chopin i Stevie Wonder i aelodau’r cyhoedd.
Cyn cychwyn ar y daith, dywedodd Iwan:
Mae mynd o amgylch efo’r piano goch lachar yn mynd i fod yn lot fawr o hwyl – mi fyddwch yn ein gweld o bell! Gobeithio y bydd pobl yn mwynhau clywed cerddoriaeth fyw yn cael ei berfformio yn y lleoliadau annisgwyl yma. Byddaf yn cymryd ceisiadau gan y cyhoedd felly gall pobl alw heibio ac fe chwaraeaf rywbeth yn arbennig iddyn nhw neu gallant ganu neu ymuno efo fi mewn deuawd os ydynt yn dymuno!
Bwriad y daith oedd codi ymwybyddiaeth am Ŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016 a gynhaliwyd gan Ganolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon rhwng y 29ain o Ebrill a’r 2il o Fai. Roedd y digwyddiad pedwar diwrnod o hyd yn cynnwys cyngherddau, cystadlaethau gyda phianyddion o bob cwr o’r byd yn cymryd rhan, a pherfformiadau mewn awyrgylch anffurfiol.