Cynhelir Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru rhwng y 29ain o Ebrill a’r 2il o Fai yn Galeri Caernarfon. Hon fydd y drydedd Gŵyl Biano i Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) ei chynnal ac eleni, bydd y pianydd Iwan Llewelyn-Jones yn cyfarwyddo am y tro cyntaf. Mae’r Ŵyl yn cynnwys cyngherddau, cystadlaethau, dosbarthiadau meistr, gweithdai, darlithoedd a chyfweliadau gydag artistiaid gwadd.

Bydd y pianydd o fri rhyngwladol Peter Donohoe yn agor yr Ŵyl am 7.45y.h, Nos Wener y 29ain o Ebrill gyda datganiad o weithiau gan Ravel, Debussy, Scriabin a Rachmaninov. Bydd Peter Donohoe hefyd yn cadeirio y panel beirniaid ar gyfer y Gystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn.

Bydd y cyntaf o dair cystadleuaeth piano yn cychwyn fore Sadwrn, 30 Ebrill gyda chylch rhagbrofol yr Unawd Piano Iau. Bydd cylch terfynol y gystadleuaeth hon yn digwydd brynhawn Sul y 1af o Fai. Bydd y cystadlaethau Piano Unawdol Hŷn a Chyfeilio yn cychwyn fore Sul y 1af o Fai pan gynhelir y cylchoedd rhagbrofol, a bydd y cylchoedd terfynol yn dilyn brynhawn Llun yr 2il o Fai. Mae’r cystadleuwyr yn dod o bob cwr o’r Byd.

Amser cinio dydd Sadwrn y 30 Ebrill, bydd cyngerdd anffurfiol “Satie on the Sidewalk’ yn dathlu cerddoriaeth Erik Satie.

Bydd y cyngherdd gyda’r nos ar y 30 Ebrill am 7.45 yn dathlu cerddoriaeth a chyfansoddwyr o Gymru ac yn cynnwys y perfformiad cyntaf o 6 darn piano unawdol a gomisiynwyd yn arbennig gan yr Ŵyl. Mae’r gweithiau wedi eu hysbrydoli gan ddelweddau a barddoniaeth ar thema Heddwch a Chofio. Cyfansoddwyd tri o’r gweithiau gan gyfansoddwyr ifanc sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd a’r tri arall gan gyfansoddwyr o fri rhyngwladol – Paul Mealor a gyfansoddodd yr anthem i briodas Dug a Duges Caergrawnt; Richard Baker sy’n arbennigo mewn cerddoriaeth gerddorfaol a siambr ac Owain Llwyd sydd yn flaenllaw ym maes cerddoriaeth ffilm a theledu. Y cyfansoddwyr ifanc yw Luke Lewis, Mared Emlyn a Maja Palser.

Bydd prosiect addysgol yr Ŵyl yn cyrraedd uchafbwynt yn y cyngerdd hwn hefyd gyda pherfformiad cyntaf o waith ar gyfer ensemble siambr wedi ei gyfansoddi gan bedwar myfyriwr lefel A. Bydd y gwaith tri symudiad ynghyd â ffanfferau yn cael ei berfformio gan gerddorion ifanc o CGWM.

Ar nos Sul 1af o Fai am 7.45 awyrgylch y Fiesta fydd yn llenwi Theatr y Galeri. Bydd pianyddion, offerynwyr eraill, cantorion ac adroddwyr yn codi’r to mewn cyngerdd o gerddoriaeth lliwgar o bob cwr o’r byd yn cynnwys Rio Grande gan Lambert, gosodiad hyfryd Poulenc o Babar the Elephant a’r Scaramouche gan Milhaud. Ymhlith y perfformwyr bydd pum pianydd yn cynnwys cyfarwyddwr yr Ŵyl, Iwan Llewelyn-Jones a Chôr Siambr CGWM.

Ar y bore olaf, Llun 2il o Fai, cynhelir tri ddigwyddiad hwyliog yn atrium Galeri, sef ‘Coffi a Croissants gyda Chopin a Debussy’ am 10am, Peter Donohoe yn sgwrsio gyda Iwan Llewelyn-Jones am ei fywyd ‘Ar y Lôn’ am 11 am, ac am hanner dydd, y ‘Pianothon’ fydd yn rhoi cyfle i bianyddion o bob oedran a chyrhaeddiad roi tonc ar y piano.

Llun o Peter Donohoe uchod gan Sussie Ahlburg.

Let’s stay in touch!

Let’s stay in touch!

We’d love to keep you up-to-date about the latest news and upcoming events at Canolfan Gerdd William Mathias, organisers of the Wales International Piano Festival.

I'd like to hear about
Language

You can change your mind at any time by clicking the unsubscribe link in the footer of any email you receive from us, or by contacting us at post@cgwm.org.uk. We will treat your information with respect. For more information about our privacy practices please see our Privacy Policy. By clicking below, you agree that we may process your information in accordance with these terms.

We use MailChimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to MailChimp for processing. Learn more about MailChimp's privacy practices here.

You have Successfully Subscribed!

Aros mewn cyswllt!

Aros mewn cyswllt!

Hoffech chi dderbyn y wybodaeth diweddaraf am newyddion a digwyddiadau Canolfan Gerdd William Mathias, trefnwyr Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru?

Fe hoffwn glywed am
Iaith

Mae'n bosib i chi newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy glicio y ddolen dad-danysgrifo ar waelod unrhyw ebost rydych chi'n ei dderbyn gennym ni, neu drwy gysylltu â ni ar post@cgwm.org.uk. Rydym ni'n trin eich gwybodaeth â pharch. Am ragor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd gwelwch ein Polisi Preifatrwydd. Drwy glicio isod, rydych chi’n cytuno i ni brosesu eich gwybodaeth yn unol â’r termau hyn.

Rydym ni'n defnyddio MailChimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych chi'n cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo i MailChimp er mwyn ei brosesu. Gallwch ddysgu mwy am ymarferion preifatrwydd MailChimp yma.

Rydych chi wedi tanysgrifio'n llwyddiannus!