COVID-19: Newid i ddyddiadau’r Ŵyl

Wedi cyhoeddi ar 14 Rhagfyr 2020

Diweddarwyd ar 14 Rhagfyr 2020.

Rydym wedi bod yn monitro’r sefyllfa bresennol gyda’r Coronafirwss ac wedi penderfynu na fydd bwrw ymlaen â Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru ar y dyddiadau newydd ym mis Mai yn mynd i fod yn ymarferol oherwydd parhad cyfyngiadau a’r ansicrwydd sy’n ymwneud â theithio, cwarantîn ac ymbellhau cymdeithasol o fewn awditoriwm.

Y newyddion da yw ein bod wedi gallu sicrhau dyddiadau newydd yn Galeri ar gyfer mis Hydref nesaf, sef Hydref 15fed – 18fed 2021.

Rydym yn bwriadu cadw at yr un rhaglen, cyngherddau, cystadlaethau a gweithgareddau cyn belled a phosib ond yn ymwybodol y gall y cyfyngiadau barhau mewn rhyw ffordd, ac felly efallai y bydd angen addasu ychydig ar y rhaglen. Rydym yn falch ein bod yn dal i allu bwrw ymlaen â’r Ŵyl o dan yr amgylchiadau heriol iawn yma i sector y celfyddydau.

Bydd yr holl gystadleuwyr sydd wedi cofrestru yn barod yn cael ei derbyn i’r Ŵyl ym mis Hydref 2021. Os na allwch ddod ym mis Hydref 2021 gofynnwn yn garedig i chi adael i ni wybod cyn 13eg Ionawr 2021 fel ein bod yn gallu ad-dalu eich ffi cofrestru. Ni fydd ad-daliad yn bosib ar ôl y dyddiad yma.

Os ydych wedi prynu tocynnau ar gyfer unrhyw un o Gyngerdd yr Ŵyl, cysylltwch â Galeri yn uniongyrchol i gael ad-daliad. Byddwn yn cyhoeddi Cyngherddau Gŵyl 2021 maes o law.

Croeso i chi gysylltu efo ni i drafod unrhyw beth ymhellach ond  gwell anfon e-bost yn hytrach na ffonio ar hyn o bryd.

Erthyglau Arall

Cofrestru ar gyfer cystadlaethau Gŵyl 2025 nawr ar agor!

Cofrestru ar gyfer cystadlaethau Gŵyl 2025 nawr ar agor!

Rydym yn falch o gyhoeddi bod cofrestru ar gyfer Cystadlaethau Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2025 nawr ar agor! Yn digwydd yn Galeri Caernarfon ym mis Hydref eleni, mae'r cystadlaethau'n rhan bwysig o'r ŵyl ac yn cynnig llwyfan cyffrous i bianyddion arddangos eu talent....

Penddelw Beethoven mwyaf y byd yn syfrdanu

Penddelw Beethoven mwyaf y byd yn syfrdanu

Mae penddelw enfawr o Beethoven yn syfrdanu ymwelwyr â chanolfan gelfyddydau - ac yn anelu i dorri record. Credir mai’r cerflun pȃpier-maché a phren enfawr yn Galeri yng Nghaernarfon yw’r cerflun mwyaf yn y byd o ben y cyfansoddwr nodedig. Gwnaed y model enfawr, sy’n...