Diwrnod Piano

Dydd Sadwrn, 18 Tachwedd 2023
Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor

Ymunwch yn yr hwyl!

Dyma gyfle gwych i bianyddion o bob cyrhaeddiad a phob oed i berfformio mewn awyrgylch gyfeillgar a chadarnhaol fel rhan o weithgareddau sy’n arwain at Gŵyl Biano Rhyngwladol Cymru sydd i’w chynnal yng Nghaernarfon yn 2025.

Cynhelir y diwrnod piano yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, Dydd Sadwrn, 18fed o Dachwedd o 9:30yb. Mae nifer o ddosbarthiadau (unawdol a deuawdau) ac mae croeso i bawb gymryd rhan mewn unrhyw nifer ohonynt, gyda’r pwyslais ar berfformio o flaen cynulleidfa a derbyn adborth gan bianyddion proffesiynol. Bydd bob pianydd sy’n cymryd rhan yn derbyn tystysgrif llwyddiant.

Yn hytrach na gosod perfformiadau yn 1af, 2il a 3ydd, bydd y pianyddion proffesiynol yn dewis nifer penodol o berfformiadau sydd wedi creu argraff arnynt yn ystod y dydd i berfformio mewn cyngerdd am 3:30pm.

Pianyddion Proffesiynol

Iwan Llewelyn-Jones

Iwan Llewelyn-Jones

Adnabyddir Iwan Llewelyn-Jones fel un o bianyddion blaenllaw ei genhedlaeth. Mae wedi perfformio yn rhai o neuaddau enwocaf y byd gan gynnwys Neuadd Wigmore, y Leipzig Gewandhaus, Tŷ Opera Sydney, a Neuadd Dewi Sant. Mae wedi derbyn sawl anrhydedd, gan gynnwys Gwobr Syr Geraint Evans er clod am ei gyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Gymraeg.
Meurig Thomas

Meurig Thomas

Mae Meurig yn dod o Llangefni, Ynys Mon. Astudiodd Piano gyda David Smith yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd , Maenceinion, tra’n cyflawni gradd BMus gydag anrhydedd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Sheffield ar yr un pryd, ble enillodd ysgoloriaeth Petrie Watson i astudio ymhellach ym Mhrifysgolion Harvard a Princeton yn UDA. Mae ganddo radd MA mewn Addysg gerddoriaeth o Brifysgol Reading a diplomas yr LRAM a ARCM.

Mewn gyrfa amrwyiol ym myd addysg gerddoriaeth mae wedi gweithio fel athro, Cynhyrchydd i’r BBC, Uwch ddarlithydd Prifysgol ac Arolygydd Ysgolion. Mae’n darlledu yn rheolaidd fel pianydd a sylwebydd ar S4C a Radio Cynru ac yn brysur iawn fel beirniad. Mae ei waith i ABRSM wedi mynd ag ef ar draws Gorllewin Ewrop, yr UDA, Singapore, Hong Kong, Cheina, Macau, Thailand, De Korea, Japan, Y Philippines, Seland Newydd De Africa, India, Dubai, Oman, Barbados, Trinidad a Bermuda. Mae ei waith cyfredol yn cynnwys gweithio i’r Academi Brydeinig Georgaidd yn Tiblisi a’r Academi Gerddoriaeth yn Jersey.

Mae wedi gwasanaethu fel aleod rheithgor BAFTA ac wedi cyfarwyddo ensmebles ysgol mewn rhai o neuaddoedd cyngerdd amlycaf y Derynas Unedig gan gynnwys Neuadd Dewi Sant Caerdydd, Neuadd St George ym Mryste a Neuadd Symffoni Birmingham. Yn 2012 fe’i etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac mae’n aelod gweithgar o MENSA.

Susie Allan

Susie Allan

Caiff y pianydd Susie Allan ei hadnabod fel cyfeilydd blaenllaw, sydd wedi ei gweld yn gweithio gyda cantorion enwog yn cynnwys Emma Bell, Sophie Daneman, Susan Gritton, Nathan Berg, Rowan Pierce, Jonathan McGovern, Mark Padmore, a Roderick Williams.

 

Ledled y DU caiff Susie ei hadnabod fel artist gwadd i sawl gymdeithas cyngherddau a neuaddau cyngerdd enwog yn cynnwys Wigmore Hall a Purcell Room, ynghyd a gwyliau enwog yn cynnwys Buxton, Endellion, Oxford Lieder a’r Three Choirs Festivals.

 

Mae hi wedi gwneud amryw o ymddangosiadau ar BBC Radio 3 ac ar gyfer y teledu yn cynnwys Proms Extra, ac wedi chwarae ar gyfer y ‘Schubert Shorts’ ar Channel 4 gyda Christopher Matman a Claron McFadden.

Dosbarthiadau’r Diwrnod Piano

Dosbarthiadau Graddedig

ABRSM, Trinity Guildhall neu London College of Music

Dos. Safon (gradd) Gofynion Cyfyngiad Amser
1 Cyn-gradd 1 Dau neu dri darn gwrthgyferbyniol 2 mun
2 1 Dau neu dri darn gwrthgyferbyniol 3 mun
3 2&3 Dau ddarn gwrthgyferbyniol 4 mun
4 4&5 Dau ddarn gwrthgyferbyniol 5 mun
5 6&7 Hunan-ddewisiad 6 mun
6 8 Hunan-ddewisiad 8 mun

 

Dosbarthiadau Cyfnodol / Arddulliol

Dosbarth Teitl Dosbarth
Oedran Gofynion
Cyfyngiad Amser
7 Baróc 1650-1750 Dan 18 Un neu ddau ddarn 6 mun
8 Clasurol
1751-1820
Dan 18 Un neu ddau ddarn 6 mun
9 Rhamantaidd
1821-1910
Dan 18 Un neu ddau ddarn 6 mun
10 20fed-21ain Ganrif
1911 – presennol
Dan 18 Un neu ddau ddarn 6 mun
11 Jazz, Ragtime & Blues Dan 12 Un neu ddau ddarn 3 mun
12 Jazz, Ragtime & Blues 12-18 Un neu ddau ddarn 4 mun

 

Dosbarthiadau Cyffredinol

Dosbarth

Teitl Dosbarth

Oedran

Gofynion

Cyfyngiad Amser

13

Astudio ers 12 mis neu lai

10 oed ac iau

Un neu ddau ddarn

2 mun

14

Astudio ers 12 mis neu lai

11-17  oed

Un neu ddau ddarn

3 mun

15

Oedolyn: Safon i fyny at Gradd 5

Dros 18

Un neu ddau ddarn

5 mun

16

Oedolyn: Safon Gradd 5+

Dros 18

Dau ddarn gwrthgyferbynionl

7 mun

17

Datganiad

Dan 14

Hunan-ddewisiad

7 mun

18

Datganiad

14-17 oed

Hunan-ddewisiad

10 mun

19

Datganiad

Dros 18

Hunan-ddewisiad

12 mun

 

Deuawdau Piano

Dosbarth

Teitl Dosbarth

Oedran Gofynion
Cyfyngiad Amser

20

Deuawd: Athro(awes) a Disgybl ar 1 piano

Agored

Hunan-ddewisiad
Disgybl o safon dechreuwr i radd 3
3 mun

21

Deuawd: 1 piano

Agored

Hunan-ddewisiad 6 mun

22

Deuawd: 2 piano

Agored

Hunan-ddewisiad 6 mun

 

Cofrestrwch i Gymryd Rhan!

Ffi: £8 y person (i gymryd rhan mewn hyd at 3 dosbarth) yna £2 am bob dosbarth ychwanegol.

Cofrestrwch yma rhwng 13 Hydref – 31 Hydref 2023.

Rheolau a Chyfarwyddiadau Pellach

  • Mae croeso i bianyddion o unrhyw wlad drwy’r byd i gymryd rhan yn y Diwrnod Piano.
  • Rhaid bod o fewn yr oedran perthnasol ar y diwrnod cynhelir y Diwrnod Piano. 
  • Am y ffi gofrestru o £8 gellir cymryd rhan mewn hyd at 3 dosbarth (os o fewn yr oedran), a £2 am bob dosbarth ychwanegol.
  • Yn y dosbarthiadau graddedig, (dosbarthiadau 2-6) gall y darnau fod o faes llafur ABRSM, Trinity Guildhall neu London College of Music o unrhyw flwyddyn. Yn achos dosbarth rhif 1 gellir perfformio unrhyw ddarnau sydd o safon cyn gradd 1. Rydym yn ymwybodol bod rhai pianyddion rhwng dau radd ac yn dysgu darnau eraill cyn symud ymlaen i’r gradd nesaf. Yn yr achos yma dylai eu tiwtor asesu pa ddosbarth gradd sydd agosaf ar safon y darnau rheini.
  • Mae modd chwarae yr un darn(au) mewn mwy nag un dosbarth.
  • Deuawdau – Dim ond un aelod o bob deuawd sydd angen cofrestru (a thalu) ond bydd lle i nodi enw’r partner deuawd ar y ffurflen gofrestru.
  • Mae dyfarniadau y pianyddion proffesiynol yn derfynol ac ni ellir eu herio.
  • Rhaid cadw o fewn y cyfyngiad amser a nodwyd.
  • Ar ôl y dyddiad cau bydd y trefnwyr yn llunio amserlen gan ystyried pa ddosbarthiadau mae bob pianydd  yn cymryd rhan ynddynt. Y nod yw bod y pianyddion yn eistedd i mewn am gymaint a phosibl o’u dosbarth er mwyn cefnogi ei gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd. Ar ddiwedd bob dosbarth bydd y pianyddion proffesiynol yn rhoi adborth ar lafar cyn symud ymlaen i’r dosbarth nesaf.
  • Os yw pianydd yn tynnu allan am unrhyw reswm ar ôl cofrestru, ni ad-delir y ffi gofrestru.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU