Cyngherddau

Cyngerdd Siambr 

Dydd Iau 16 Hydref 2025,  7:45pm, Neuadd Powis Prifysgol Bangor

Dathliad o gerddoriaeth siambr Ffrengig ar gyfer offerynnau a llais, yn cynnwys triawdau piano arloesol gan Gabriel Fauré a Maurice Ravel ynghyd â chaneuon celf ac operatig bendigedig o waith Lily Boulanger, Cécile Chaminade, a Georges Bizet.

Erin Gwyn Rossington (soprano), Iwan Llewelyn-Jones (piano), Sara Trickey (ffidil), Rosie Biss (soddgrwth).

£15 // £13 // £5

Cyngerdd Cymunedol

‘Madam Wen’ Comisiwn yr Ŵyl

Dydd Gwener 17 Hydref 2025,  7:00pm, Theatr Galeri Caernarfon

Cyngerdd yn cynnwys première byd-eang addasiad cerddorol newydd sbon o un
o nofelau antur mwyaf eiconig Cymru, Madam Wen. Wedi’i leoli yn Ynys Môn ar
ddechrau’r 18fed ganrif, mae’r stori yn llawn cyffro, dirgelwch, lladron ffordd, smyglwyr,
ac yn ei ganol, yr arwres hudolus, Madam Wen.

Manon Wyn Williams (script a llefarydd), Guto Puw (cyfansoddwr), Catrin Williams (cynllunydd creadigol).

Glesni Rhys Jones (soprano), Elain Rhys Jones (piano), Angharad Wyn Jones (piano)
Dewi Ellis Jones (offerynnau taro).

Grŵp Lleisiol ac Offerynnol Ysgol Gynradd Bodedern –
Nia Wyn Efans (arweinydd)

£12 // £10 // £5

Gwilym Simcock

Dydd Sadwrn 18 Hydref 2025,  7:45pm, Theatr Galeri Caernarfon

Wedi’i ganmol fel pianydd o allu ‘eithriadol’, ‘gwych’ a ‘disglair’, mae Gwilym Simcock
yn symud yn ddiymdrech rhwng jazz a cherddoriaeth glasurol, gyda ‘soffistigedigrwydd harmonig a chydblethu cynnil o draddodiadau cerddorol’. Yng ngeiriau’r diweddar Chick Corea: “Mae Gwilym yn gwbl wreiddiol. Yn athrylith greadigol”

£21 // £19 // £10

Cylch Terfynol Cystadleuaeth Piano Unawdol Iau

Dydd Sul 19 Hydref 2025,  2pm Amser i’w gadarnhau, Theatr Galeri Caernarfon

£5 / plant oed ysgol am ddim

Cylch Terfynol Cystadleuaeth Cyfeilio

Dydd Llun 20 Hydref 2025,  11:15am Amser i’w gadarnhau, Theatr Galeri Caernarfon

£10 / £15 am y ddwy gyngerdd terfynol

Cylch Terfynol Cystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn

Dydd Llun 20 Hydref 2025,  2:30pm Amser i’w gadarnhau, Theatr Galeri Caernarfon

£10 / £15 am y ddwy gyngerdd terfynol