Cyngerdd Siambr Ffrenig
Dydd Iau 16 Hydref 2025, 7:45pm, Neuadd Powis Prifysgol Bangor
Meinir Wyn Roberts (soprano), Rosie Biss (sielo),
Sara Trickey (ffidil), Iwan Llewelyn-Jones (piano)
Rhaglen yn cynwys cerddoriaeth gan Gabriel Fauré, Maurice Ravel & detholiad o ganeuon gan Cécile Chaminade & Lily Boulanger.

Meinir Wyn Roberts (Soprano)
Bywgraffiad Cymraeg ar y ffordd.

Rosie Biss (Sielo)
Rosie Biss yw Prif Soddgrwth Opera Cenedlaethol Cymru ac mae ganddi yrfa amrywiol fel cerddor siambr, unawdydd, prif gerddor gwadd, ac athrawes. Fel chwraewr soddgreth Trio Odysseus, ac aelod blaenorol o Bedwarawd Zehetmair, perfformiodd Rosie ledled neuaddau cyngerdd Ewrop ac America. Fel prif soddgrwth gwadd, mae hi wedi chwarae gyda cherddorfa’r Tŷ Opera Brenhinol, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Hallé, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham ymhlith llawer o rai eraill. Mae hi wedi darlledu ar BBC Radio 3, Classic FM, WDR 3, ac wedi ymddangos mewn gwyliau cerddoriaeth mawr gan gynnwys Caeredin, Aspen a Schleswig-Holstein. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt, a Musikhochschule Cwlen, mae Rosie bellach yn addysgwraig brwd. Mae hi’n athro soddgrwth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac yn addysgu dosbarthiadau meistr yn flynyddol yn Cellofest.

Sara Trickey (violin)
Mae Sara Trickey yn mwynhau gyrfa gyffrous ac amrywiol fel unawdydd ar y feiolin a cherddor siambr. Yn nodedig am ei pherfformiadau “tanbaid ac angerddol” (The Strad) a’i “thôn hyfryd o fireinio” (Musical Opinion), mae hi’n perfformio mewn llawer o ŵyliau a lleoliadau mawr y DU, gan gynnwys yng ngŵyliau Cerddoriaeth Siambr Presteigne, Alwyn, Oxford May Music, Efrog, Ashburton a Dyffryn Gwy. Mae hi’n chwarae’n rheolaidd gyda’r pianydd Dan Tong, gan recordio Sonatinas Schubert i glod beirniadol (“Irresistible!” – Barry Millington) gydag ef. Mae CD o Fauré a David Matthews wedi’i ryddhau’n ddiweddar gan Deux-Elles a recordiad première byd-eang o sonatau feiolin Mathias gydag’r pianydd Iwan Llewelyn-Jones.
Mae Sara wedi perfformio’r rhan fwyaf o’r repertoire ar gyfer feiolin a cherddorfa, gyda cherddorfeydd megis Sinfonia Dinas Llundain a Cherddorfa Sant Ioan (“Roedd concerto feiolin Beethoven yn berffaith” – Seen and Heard International). Yn ddiweddar, recordiodd goncerto dwbl David Matthews ar gyfer ffidil a fiola gyda Cherddorfa Symffoni Lloegr a’r fiolydd Sarah-Jane Bradley.
Mae hi’n un o sylfaenwyr Triawd Piano Odysseus ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Ensemble Rossetti. Mae hi’n chwarae mewn deuawd ffidil gydag Andrew Watkinson, arweinydd Pedwarawd Endellion. Cyn ffurfio’r grwpiau hyn, arweiniodd Sara Bedwarawd Llinynnol Bronte am chwe blynedd, gan ennill cystadleuaeth y Gynghrair Dramor Frenhinol a’r ail wobr yng nghystadleuaeth Pedwarawd Rhyngwladol Cremona.
Yn ddiweddar, curadodd Sara ei phrosiect ei hun ‘Dancing With Apollo’ yn Kings Place fel rhan o Ŵyl Spitalfields. Roedd hwn yn brosiect amlgyfrwng yn seiliedig ar fytholeg Groegaidd. Yn ogystal â cherddoriaeth ar gyfer ffidil a phiano, roedd yn cynnwys adrodd a dawns gyda cydweithrediadau â’r Fonesig Marina Warner, y coreograffydd Kim Brandstrup a’r pianydd Ivana Gavric.
Mae hi hefyd wedi cydweithio’n ddiweddar â Joffrey Ballet, sydd wedi’i leoli yn Chicago, a’r coreograffydd Cathy Marston i greu’r ffilm fer ‘Bertha’ gyda sgôr a ysgrifennwyd iddi hi – unawd ffidil gyda chyfeiliant padellau llaw gan Errollyn Wallen.
Astudiodd Sara gyda Camilla Wicks a chafodd ei dylanwadu’n fawr gan ei hastudiaethau yn IMS Prussia Cove. Astudiodd y Clasuron yn Neuadd y Drindod, Caergrawnt ac mae hyn yn parhau i fod yn angerdd iddi. Mae hi hefyd yn mwynhau addysgu, yn bennaf yn Ysgol Gerdd a Drama Iau Guildhall.

Iwan Llewelyn-Jones (piano)
Wedi’i ddisgrifio gan y Daily Telegraph fel ‘pianydd o flas, hyder a sensitifrwydd chwaethus di-fai’, mae Iwan Llewelyn-Jones wedi sefydlu ei hun fel un o bianyddion gorau ei genhedlaeth. Mae wedi perfformio mewn llawer o neuaddau cyngerdd mawreddog y byd gan gynnwys Neuadd Wigmore, Neuadd y Frenhines Elizabeth, Gewandhaus Leipzig, a Thŷ Opera Sydney. Iwan yw Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Piano Ryngwladol Cymru 2025, ar ôl curadu’r ddwy Ŵyl flaenorol yn 2016 a 2021. Mae wedi derbyn sawl gwobr ac anrhydedd, gan gynnwys Gwobr Syr Geraint Evans i gydnabod ei gyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Cymru. Mae Iwan yn Artist Steinway ac mae’n cyfuno amserlen berfformio ryngwladol brysur â’i rôl fel Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Perfformio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.