Cyngerdd Cymunedol
‘Madam Wen’ Comisiwn yr Ŵyl
Dydd Gwener 17 Hydref 2025, 7:00pm, Theatr Galeri Caernarfon
Cyngerdd yn cynnwys première byd-eang addasiad cerddorol newydd sbon o un o nofelau antur mwyaf eiconig Cymru, Madam Wen. Wedi’i leoli yn Ynys Môn ar ddechrau’r 18fed ganrif, mae’r stori yn llawn cyffro, dirgelwch, lladron ffordd, smyglwyr, ac yn ei ganol, yr arwres hudolus, Madam Wen.
Manon Wyn Williams (script a llefarydd),
Guto Puw (cyfansoddwr)
Catrin Williams (cynllunydd creadigol)
Glesni Rhys Jones (soprano)
Elain Rhys Jones (piano)
Angharad Wyn Jones (piano)
Dewi Ellis Jones (offerynnau taro)
Grŵp Lleisiol ac Offerynnol Ysgol Gynradd Bodedern –
Nia Wyn Efans (arweinydd)

Manon Wyn Williams
Script a Llefarydd
Ers derbyn gradd, BA, MA a PhD o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor, bu Manon yn gweithio fel sgriptwraig, actores broffesiynol a thiwtor drama i ieuenctid gyda chwmnïau megis Sianco, Cwmni’r Frân Wen, Shimli, Theatr Cymru a Chwmni Theatr Bara Caws. Yn 2007, enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel am berfformiad dramatig ac yn 2007 a 2010, enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Y ddrama Gymraeg yw ei phrif faes ymchwil ac yn 2014 derbyniodd swydd fel Darlithydd Sgriptio a Drama yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor – swydd sydd wedi caniatáu iddi rannu ei harbenigedd ag eraill ynghyd â pharau i weithio ar brosiectau creadigol.

Guto Puw
Cyfansoddwr
Graddiodd Guto Pryderi Puw mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor yn 1993 ac yn ddiweddarach derbyniodd Doethuriaeth mewn Cyfansoddi yn 2002 ac ers 2006 bu’n ddarlithydd mewn cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor.
Daeth i lygaid y cyhoedd drwy ennill Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1995 ac am yr eildro yn y Bala yn 1997. Fe’i penodwyd fel Cyfansoddwr Preswyl cyntaf Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC rhwng 2006-2010, gan dderbyn comisiwn i’r Proms (‘…onyt agoraf y drws…’) ac ennill ‘Gwobr y Gwrandawyr’ yng Ngwobrau Cyfansoddwr Prydeinig yn 2007 (am y Concerto ar gyfer Obo). Yn 2014 rhyddhawyd CD o’i gyfansoddiadau cerddorfaol ar label Signum a derbyniodd Wobr Syr Geraint Evans gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru am ei ‘gyfraniad arwyddocaol i gerddoriaeth Cymru.’
Bu’n Gyfarwyddwr Artistig ar Ŵyl Gerdd Bangor ers ei sefydlu yn 2000.
Enghraifft o waith Guto Puw
Catrin Williams
Cynllunydd Creadigol

Glesni Rhys Jones
Soprano
Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae’r Soprano Glesni Rhys Jones bellach yn astudio cwrs Meistr yn yr Academi Brenhinol yn Llundain (RAM) gyda chefnogaeth hael Cronfa Ymddiriedolaeth Ryan Davies.
Cyn hynny, bu’n astudio Cwrs Llais ac Opera o dan arweiniad Hilary Summers yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd (RNCM). Yn ystod ei hamser yn yr RNCM, bu Glesni’n rhan o gorws tair opera gan gynnwys Die Fledermaus (Strauss), The Snow Maiden (Rimsky-Korsakov), a L’Étoile (Chabrier), yn ogystal a mewn golygfeydd o La buona figliola a La clemenza di Tito. Bu iddi hefyd berfformio yn nhaith Haf 2023 Opra Cymru yn eu cynhyrchiad o Così fan tutte (Mozart).
Fel unawdydd, bu iddi berfformio rhan y soprano yn y Messiah gan Handel, Gloria gan Vivaldi, Magnificat gan Bach, a The Creation gan Haydn, o dan arweiniad Trystan Lewis a Gwyn L. Williams. Yn 2025, derbyniodd Glesni Wobr Anrhydeddus Amanda Ira Aldridge yng Nghystadleuaeth Williams-Howard, a chafodd wahoddiad i berfformio datganiad fel rhan o Ŵyl Rhyngwladol Buxton.
Bu Glesni yn Ysgolhaig gyda Chôr yr Hallé, dan oruchwyliaeth Matthew Hamilton, gan berfformio gweithiau corawl enwog megis Requiem gan Verdi a The Bells gan Rachmaninov yn Neuadd Albert, Llundain o dan faton Syr Mark Elder. Yn ddiweddar, teithiodd gyda Cherddorfa Ieuenctid Cenedlaethol yr Almaen, gan berfformio mewn lleoliadau nodedig megis y Musikverein yn Fienna a’r Elbphilharmonie yn Hamburg.
Un o uchafbwyntiau ei gyrfa hyd yma yw canu deuawd gyda’r Soprano enwog Rhian Lois yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn 2021.

Elain Rhys Jones
Piano
Yn wreiddiol o Fodedern, Ynys Môn, graddiodd Elain gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor yn 2020 lle enillodd wobr goffa Phillip Pascall am gyrhaeddiad rhagorol. Yn dilyn hynny, cwblhaodd radd MA trwy Ymchwil yn seiliedig ar drefniannau lleisiol o alawon gwerin Cymreig gan Grace Williams. Astudiodd y delyn a’r piano dan arweiniad cerddorion blaenllaw megis Elinor Bennett ac Iwan Llewelyn-Jones. Mae wedi bod yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru fel telynores ac mae’n mwynhau cyfeilio i unigolion, yn gyfeilydd swyddogol mewn Eisteddfodau a gwyliau cenedlaethol ac yn gyfeilydd i Gôr Ieuenctid Môn a Chôr Esceifiog. Yn ystod haf 2022 a 2023, gwahoddwyd Elain i ddysgu’r delyn a pherfformio fel rhan o’r Wythnos Dreftadaeth Gymreig yn nhaleithiau Wisconsin a Pennsylvania, UDA. Ar hyn o bryd, mae Elain yn astudio ar gyfer ei doethuriaeth sy’n canolbwyntio ar unig opera Grace Williams, ‘The Parlour’.

Angharad Wyn Jones
Piano
Derbyniodd Angharad ei haddysg uwchradd yn ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes. Yn ennillydd cenedlaethol ar y delyn a’r biano, penderfynnodd fynd ymlaen i wneud gyrfa fel telynores. Yn 2006 graddiodd o’r Academi Gerdd Frenhinol, Llundain. O ran ei haddysg ar y piano, cyn mynd i’r coleg bu’n cael gwersi gan Valeri Ellis, Mynytho, yna Helen Davies ym Mhorthaethwy. Tra yn yr ysgol, bu’n cyfeilio ers yn 13 oed i gôr Hogia’r Ddwylan, Ynys Môn, ynghyd â gwaith cyfeilio yng ngherddorfa’r Sir a chorau a phartion yn yr ysgol uwchradd. Mae wedi dilyn gyrfa broffesiynnol ar y delyn – gweithio gyd cherddorfeydd megis Royal Philharmonic Orchestra, Philharmonia, Scottish Chamber Orchestra, Royal Liverpool Philharmonic Orchestra, Welsh Chamber Orchestra, Cyprus State Orchestra ac yna yn 2004 ar daith gyda cerddorfa Sir Elton John. Mae bellach yn gweithio i wasanaeth Cerdd Gwynedd a Môn fel athrawes biano a thelyn. Mae ei gwaith cyfeilio ar y biano yn parhau mewn cyngherddau i ysgolion ac i offerynnwr prês yn enwedig.

Dewi Ellis Jones
Offerynnau Taro
Mae Dr Dewi Ellis Jones yn dod o Lanfairpwll, Ynys Môn ond bellach yn byw yn Y Bontnewydd. Graddiodd gyda BMus ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2001, ac yna dilyn gyda gradd MA, a diploma LRSM.
Mae wedi ennill Doethuriaeth mewn Perfformio a Chyfansoddi, ar ôl astudio gyda Simone Rebello, Dr Pwyll ap Sion a’r byd enwog Y Fonesig Evelyn Glennie.
Dewi yw unawdydd offerynnau taro llawn amser cyntaf Cymru ac mae’n brysur hefyd fel unawdydd gyda sawl cerddorfa a band. Ef yw prif offerynnwr taro Cerddodfa Siambr Cymru ac Ensemble Cymru, ddaeth i’r rhestr fer yng Ngwobrau Cerddoriaeth y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn 2006.
Mae’n diwtor yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ac yn athro Offerynnau Taro ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd Dlws y Prif Gyfansoddwr, sef Medal Goffa Grace Williams, yn 2001 yng Ngŵyl yr Urdd. Derbyniodd Dewi ysgoloriaeth gan S4C i’w noddi a helpu datblygu ei dalent fel perfformiwr. Mae hefyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.
Mae wedi perfformio Dosbarthiadau Meistr ledled y DU ac Ewrop ac mae’n Athro Gwadd Offerynnau Taro yn y Conservatorio Nacional De Musica yn Santo Domingo, Gweriniaeth Dominica.
Mae Dewi yn rhedeg TARO Custom Drums sy’n cyflenwi’r Drymiau Cerddorfaol gorau i gerddorfeydd. Disgrifiwyd ei offerynnau wedi’u crefftio â llaw fel “Rolls Royce” Drymiau Cerddorfaol a gellir eu gweld ar y llwyfan gyda cherddorfeydd blaenllaw fel BBC NOW, The Hallé a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl i enwi dim ond rhai.
Mae Dewi yn briod ag Einir Wyn Hughes, sy’n delynores broffesiynol. Mae ganddynt ddwy ferch, Ela Non ac Anni Cêt.