Cyngherddau a Digwyddiadau

Dydd Iau, 16 Hydref 2025

Anturiaethau Ffrengig (Fforwm)

Dydd Iau 16 Hydref 2025,  9:00 – 5:00pm, Prifysgol Bangor

Cyngerdd Siambr 

Dydd Iau 16 Hydref 2025,  7:45pm, Neuadd Powis Prifysgol Bangor

Dathliad o gerddoriaeth siambr Ffrengig ar gyfer offerynnau a llais, yn cynnwys triawdau piano arloesol gan Gabriel Fauré a Maurice Ravel ynghyd â chaneuon celf ac operatig bendigedig o waith Cécile Chaminade, a Georges Bizet.

Erin Gwyn Rossington (soprano), Iwan Llewelyn-Jones (piano), Sara Trickey (ffidil), Rosie Biss (soddgrwth).

£15 // £13 // £5

Dydd Gwener, 17 Hydref 2025

Cofio Erik Satie / Remembering Erik Satie 1866-1925

Tim Ward (llais), Angharad Price (llefarydd), Iwan Llewelyn-Jones (piano)

Dydd Gwener 17 Hydref 2025,  1:00pm – 1:45pm, Stiwdio 1 Galeri

Faint ydych chi’n ei wybod am y cyfansoddwr rhyfeddol o Ffrainc, Erik Satie (1866-1925)? Er bod canrif wedi mynd heibio ers ei farwolaeth, mae ei gerddoriaeth yn teimlo mor gyfoes ag erioed.

Dewch i ddarganfod mwy am ei gyfansoddiadau prydferth ac arloesol yng nghwmni Iwan Llewelyn-Jones (piano) a Tim Ward (llais), wrth iddyn nhw berfformio cyfres o ganeuon fel Je te veux (1903) a Le Piccadilly (1904), yn ogystal â darnau enwog Satie i’r piano, y Gymnopèdie 1 a’r Gnossienne 1. Yn cyflwyno’r perfformwyr mae’r awdur, Angharad Price, a fydd yn adrodd peth o hanes y cymeriad hynod hwn a gafodd gymaint o ddylanwad ar gerddorion ein hoes ni.

Gweithdy Einaudi (Oedolion)

gyda Holly Shone

Dydd Gwener 17 Hydref 2025,  2:15pm – 3:45pm, Stiwdio 1

Mae’r digwyddiad yma mewn Saesneg.

Pianothon

gyda Holly Shone

Dydd Gwener 17 Hydref 2025,  3:45pm – 5:00pm, Cyntedd Galeri

Cyngerdd Cymunedol

‘Madam Wen’ Comisiwn yr Ŵyl

Dydd Gwener 17 Hydref 2025,  7:00pm, Theatr Galeri Caernarfon

Cyngerdd yn cynnwys première byd-eang addasiad cerddorol newydd sbon o un
o nofelau antur mwyaf eiconig Cymru, Madam Wen. Wedi’i leoli yn Ynys Môn ar
ddechrau’r 18fed ganrif, mae’r stori yn llawn cyffro, dirgelwch, lladron ffordd, smyglwyr,
ac yn ei ganol, yr arwres hudolus, Madam Wen.

Manon Wyn Williams (script a llefarydd), Guto Puw (cyfansoddwr), Catrin Williams (cynllunydd creadigol).

Glesni Rhys Jones (soprano), Elain Rhys Jones (piano), Angharad Wyn Jones (piano)
Dewi Ellis Jones (offerynnau taro).

Grŵp Lleisiol ac Offerynnol Ysgol Gynradd Bodedern –
Nia Wyn Efans (arweinydd)

£12 // £10 // £5

Dydd Sadwrn, 18 Hydref 2025

Cystadleuaeth Piano Unawdol Iau: Prawf Rhagbrofol

Dydd Sadwrn 18 Hydref 2025, 9:30am – , Stiwdio 1

Dylan Cernyw (Telyn)

Dydd Sadwrn 18 Hydref 2025,  1:00pm – 1:45pm, Cyntedd Galeri 

Telynor, Perfformiwr ac athro telyn llawrydd yw Dylan Cernyw sydd wedi perfformio yn Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Canada, Prague, Tsieina a’r Swistir.

Mae’n gyfeilydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Urdd ar Ŵyl Gerdd Dant ers 1995. Ymdangosodd fel gŵr gwadd yng Ngwyl o Fil o leisiau yn Llundain ac mae wedi perfformio gydag artistiaid megis Bryn Terfel, Katherine Jenkins, John Owen Jones, Shân Cothi, Rhys Meirion, Rhydian Roberts dim ond in enwi rhai.

Cystadleuaeth Piano Unawdol Iau: Prawf Rhagbrofol

Dydd Sadwrn 18 Hydref 2025, 2:00pm – , Stiwdio 1

Cyhoeddi Enwau Prawf Terfynol Iau

Dydd Sadwrn 18 Hydref 2025, 5:00pm, Cyntedd Galeri

Sesiwn Cwestiwn ac Ateb: Luyi Wang yn holi Chenyin Li

Dydd Sadwrn 18 Hydref 2025,  5:30pm, Cyntedd Galeri Caernarfon

Gwilym Simcock

Dydd Sadwrn 18 Hydref 2025,  7:45pm, Theatr Galeri Caernarfon

Wedi’i ganmol fel pianydd o allu ‘eithriadol’, ‘gwych’ a ‘disglair’, mae Gwilym Simcock
yn symud yn ddiymdrech rhwng jazz a cherddoriaeth glasurol, gyda ‘soffistigedigrwydd harmonig a chydblethu cynnil o draddodiadau cerddorol’. Yng ngeiriau’r diweddar Chick Corea: “Mae Gwilym yn gwbl wreiddiol. Yn athrylith greadigol”

£21 // £19 // £10

Act II

Dydd Sadwrn 18 Hydref 2025, 9:00pm, Cyntedd Galeri Caernarfon

Stephen Rees (allweddellau & ffidil)
Owen Lloyd-Evans (bâs)
Wyn Pearson (gitâr)

Dydd Sul, 19 Hydref 2025

Cystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn: Prawf Rhagbrofol

Dydd Sul 19 Hydref, 9:30am, Stiwdio 1

Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano: Prawf Rhagbrofol

Dydd Sul 19 Hydref. 10:30am, Theatr Galeri

Cylch Terfynol Cystadleuaeth Piano Unawdol Iau

Dydd Sul 19 Hydref 2025,  2pm, Theatr Galeri Caernarfon

£5 / plant oed ysgol am ddim

Cystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn: Prawf Rhagbrofol

Dydd Sul 19 Hydref, 2:00pm, Stiwdio 1

Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano: Prawf Rhagbrofol

Dydd Sul 19 Hydref. 4:00pm, Theatr Galeri

Cyflwyno Gwobrau: Cystadleuaeth Piano Unawdol Iau

Dydd Sul 19 Hydref. 4:00pm, Cyntedd

Cyhoeddi Enwau Prawf Terfynol Hŷn

Dydd Sul 19 Hydref. 4:30pm, Cyntedd

Dosbarth Meistr Kathryn Stott 

Dydd Sul 19 Hydref 2025, 5:30pm – 7:00pm, Stiwdio 1

Mae’r Dosbarth Meistr yma i’r pianyddion hyn na ddewisir i fynd drwodd i’r Prawf Terfynol

Cyhoeddi Enwau Prawf Terfynol Cyfeilio

Dydd Sul 19 Hydref. 7:30pm, Cyntedd

Dydd Llun, 20 Hydref 2025

Sgwrs gyda Ingrid Surgenor & Sophia Rahman

Dydd Llun 20 Hydref 2025, 10:00am – 10:45am, Cyntedd Galeri

Cylch Terfynol Cystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn

Dydd Llun 20 Hydref 2025,  11:15am, Theatr Galeri Caernarfon

£10 / £15 am y ddwy gyngerdd terfynol

Cyflwyno Gwobrau (Cystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn)

Dydd Llun 20 Hydref 2025, 2:00pm, Cyntedd Galeri

Cylch Terfynol Cystadleuaeth Cyfeilio

Dydd Llun 20 Hydref 2025,  2:30pm, Theatr Galeri Caernarfon

£10 / £15 am y ddwy gyngerdd terfynol

Cyflwyno Gwobrau (Cystadleuaeth Cyfeilio)

Dydd Llun 20 Hydref 2025, 5:00pm, Cyntedd Galeri