
Gwilym Simcock
Dydd Sadwrn 18 Hydref 2025, 7:45pm, Theatr Galeri Caernarfon
Datganiad unawdol gan y pianydd aroesol Gwilym Simcock
‘straddling the border between classical and jazz music to mesmerising effect’. Observer
Mae’r pianydd a’r cyfansoddwr Gwilym Simcock yn symud yn ddiymdrech rhwng cerddoriaeth jazz a chlasurol gan greu sain sy’n unigryw iddo fo wrth weithio gyda cherddorfeydd, corau, ‘big bands’, ensembles a cherddorion ar draws y sbectrwm cerddoriaeth. Mae Gwilym yn ymddangos yn aml ar Radio a Theledu’r BBC yn y DU. Yn 2018-19 ef oedd Artist Preswyl cyntaf gyda ‘Big Band NDR’ yn Hamburg. Ers 2018 mae wedi gweithio’n rheolaidd gydag Ensemble Taro LSO, gan recordio yr albwm “Quartet, Quintet” efo nhw. Yn 2021 bu’n gweithio gyda cherddorfa Sweden OModernt, a threfnodd a recordiodd “Milestones” yn seiliedig ar gerddoriaeth Miles Davis gyda’r trombonydd Nils Landgren. Yn 2022 cafodd ei gomisiynu i ysgrifennu gwaith newydd “When Time Has Told” ar gyfer Kammerorchester Stuttgarter. Yn 2023 bu’n gweithio ac yn ysgrifennu ar gyfer Cerddorfa Jazz Brwsel. Disgrifiwyd ei albwm unigol ‘Good Days at Schloss Elmau’ (ACT) a enwebwyd am Wobr Mercury yn 2011 fel “ffres iawn”, “o’r radd flaenaf”, “anhygoel”, “ffenomenal”, “achos dathliad enfawr”. Yn 2014 rhyddhawyd dau albwm clodwiw iawn ar ACT “Instrumation” gyda Sinfonia Dinas Llundain a “Reverie at Schloss Elmau” deuawd gyda’r basydd Yuri Goloubev. Yn 2019 rhyddhaodd albwm unigol ar ACT “Near and Now” a oedd yn ymroddedig i rai dylanwadau cynnar. Mae Gwilym yn cyd-arwain y Supergroup Saesneg-Americanaidd ‘The Impossible Gentlemen’ gyda’r gitarydd Mike Walker ac mae wedi recordio tri albwm clodwiw iawn gyda’r band ar Basho Records. Teithiodd y byd am bum mlynedd gyda’r gitârydd o’r Unol Daleithiau Pat Metheny gyda ‘Linda May Han Oh & Antonio Sanchez’. Yn 2019 rhyddhaodd Metheny ei albwm “From This Place” ar Nonesuch sy’n cynnwys y cerddorion hyn. Eleni mae’n mynd ar daith gyda’r sacsoffonydd Tim Garland a’r ‘Lighthouse Trio’ wrth iddyn nhw ddathlu 20 mlynedd. Mae Gwilym yn athro piano Jazz yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain ac mae ar fin rhyddhau albwm ar labelACT gyda’r sacsoffonydd Emma Rawicz, a raddiodd yn ddiweddar o Academi Gerdd Frenhinol.
“Does dim cerddor ifanc y tu allan i fyd pop wedi symud mor gyflym i gyrraedd pinacl ei broffesiwn â Simcock”. Stuart Nicholson, Observer