Symposiwm

Mae Gŵyl Piano Ryngwladol Cymru ar y cyd â Phrifysgol Bangor a’r Gymdeithas Gerddorol Frenhinol yn eich gwahodd yn gynnes i ddiwrnod o sgyrsiau, cyflwyniadau a pherfformiadau sy’n archwilio rôl y piano mewn cerddoriaeth siambr offerynnol a lleisiol Ffrengig rhwng 1875-2025.

Mae’r Symposiwm yn rhan o Ŵyl Piano Ryngwladol Cymru, sy’n para 5 diwrnod (16-20 Hydref 2025) a bydd yn dod i ben gyda chyngerdd gyda’r nos o gerddoriaeth siambr Ffrengig yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor (gweler y dudalen Cyngherddau am ragor o wybodaeth).