Cyngerdd Tiwtoriaid Canolfan Gerdd William Mathias

Wedi cyhoeddi ar 21 Rhagfyr 2019

Ar ddechrau Tachwedd, ymunodd wyth o diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William Mathias â’r pianydd cyngerdd rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, ar gyfer cyngerdd arbennig i godi arian tuag at noddi gwobr gystadleuaeth yn yr Ŵyl Biano fydd yn cael ei chynnal flwyddyn nesaf.

Yn ôl Iwan Llewelyn-Jones:

“Rydym i gyd yn ffrindiau a’r peth braf am wneud rhywbeth fel hyn drwy ddod at ein gilydd fel ensemble, yw ei fod yn gymaint o hwyl. Does dim rhaid i chi siarad, dim ond chwarae. Rydych chi’n gadael i’r gerddoriaeth wneud y siarad drosoch chi.

“Mi wnaethon ni gynnal cyngerdd tebyg yn 2015 i lansio Gŵyl 2016. Roedd rhywfaint o nerfusrwydd ymlaen llaw, wrth gwrs, gan nad oes gan rai o’r tiwtoriaid yr amser i berfformio’n gyhoeddus yn aml ond roedden nhw wrth eu boddau, roedd yn brofiad gwefreiddiol i ni i gyd. Dyma yw hanfod y peth.”

Cynhaliwyd y digwyddiad cymunedol hwyliog yn Theatr Galeri Caernarfon. Roedd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o glasuron poblogaidd – ‘Carnifal yr Anifeiliaid’ (Saint-Saëns), ‘En bateau’ (Debussy), Symffoni Rhif 5 (Beethoven) a’r ‘Nutcracker Suite’ gan Tchaikovsky – ac yn cael eu perfformio ar ddwy biano grand gan Glian Llwyd, Nia Davies-Williams, Steven Evans, Ann Peters Jones, Helen Owen, Hawys Price, Teleri-Siân, Siân Wheway ac Iwan.

“Mae hwn yn un o ddau ddigwyddiad lansio sy’n dod â’r Ganolfan Gerdd a’r bobl sy’n gweithio ynddi at ei gilydd i arddangos eu doniau,” meddai Iwan.

“Rhoddais llawer o feddwl i’r detholiad o gerddoriaeth gan geisio ei wneud mor ddeniadol â phosib. Roedd y pianyddion wedi rhoi o’u hamser eu hunain am ddim ar gyfer y cyngerdd hwn ac roedd yn hyfryd gweld y lle’n llawn.”

Mae Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, a drefnir gan Ganolfan Gerdd William Mathias, yn cael ei chynnal rhwng 1-4 Mai 2020 a bydd yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol, sef perfformio, cerddoriaeth newydd, cystadlu ac addysgu.

Bydd Gŵyl 2020 yn talu gwrogaeth i Ludwig van Beethoven a’i etifeddiaeth bianyddol fel rhan o ddathliadau sy’n nodi 250 mlynedd ers ei eni.

I archebu tocynnau ar gyfer Gŵyl Biano Rhyngwladol Cymru ewch i: www.galericaernarfon.com neu ffoniwch 01286 685 222.

Erthyglau Arall

Cofrestru ar gyfer cystadlaethau Gŵyl 2025 nawr ar agor!

Cofrestru ar gyfer cystadlaethau Gŵyl 2025 nawr ar agor!

Rydym yn falch o gyhoeddi bod cofrestru ar gyfer Cystadlaethau Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2025 nawr ar agor! Yn digwydd yn Galeri Caernarfon ym mis Hydref eleni, mae'r cystadlaethau'n rhan bwysig o'r ŵyl ac yn cynnig llwyfan cyffrous i bianyddion arddangos eu talent....

Penddelw Beethoven mwyaf y byd yn syfrdanu

Penddelw Beethoven mwyaf y byd yn syfrdanu

Mae penddelw enfawr o Beethoven yn syfrdanu ymwelwyr â chanolfan gelfyddydau - ac yn anelu i dorri record. Credir mai’r cerflun pȃpier-maché a phren enfawr yn Galeri yng Nghaernarfon yw’r cerflun mwyaf yn y byd o ben y cyfansoddwr nodedig. Gwnaed y model enfawr, sy’n...