Diwrnod Piano

Dydd Sadwrn, 29 Tachwedd 2025

Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor

Ymunwch yn yr hwyl!

Dyma gyfle gwych i bianyddion o bob cyrhaeddiad a phob oed i berfformio mewn awyrgylch gyfeillgar a chadarnhaol fel rhan o weithgareddau Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.

Cynhelir Diwrnod Piano 2025 yn Adeilad Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, Dydd Sadwrn, 29ain o Dachwedd  2025 o 9:30yb. Mae nifer o ddosbarthiadau (unawdol a deuawdau) ac mae croeso i bawb gymryd rhan mewn unrhyw nifer ohonynt, gyda’r pwyslais ar berfformio o flaen cynulleidfa a derbyn adborth gan bianyddion proffesiynol. Bydd bob pianydd sy’n cymryd rhan yn derbyn tystysgrif llwyddiant.

Yn hytrach na gosod perfformiadau yn 1af, 2il a 3ydd, bydd y pianyddion proffesiynol yn dewis nifer penodol o bianyddion sydd wedi creu argraff arnynt yn ystod y dydd i berfformio mewn cyngerdd ar ddiwedd y prynhawn. Bydd y rhai sy’n ymddangos yn y cyngerdd yn derbyn rhodd o Gronfa CGWM er cof am Ben Muskett.

Pianyddion Proffesiynol

Sioned Webb

Sioned Webb

Daeth Sioned Webb yn enillydd cenedlaethol ar y piano pan oedd hi’n wyth oed. Astudiodd gyda William Mathias ac Jana Frenklova ym Mangor cyn derbyn gwersi cyfeilio yn RAM Llundain. Fel hyfforddwr, mae ei disgyblion wedi dod i’r brig mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol ac mae newydd ddarfod ei halbwm ‘Sonant’ i ddau biano gyda’r cerddor Sian James fydd allan yn gynnar yn 2026. Mae ei cherddoriaeth wedi mynd a hi i garchardai ac ynysoedd pellennig yn ogystal â’r neuadd gyngerdd.

Bethan Conway

Bethan Conway

Yn wreiddiol o Sir y Fflint, mae Bethan yn mwynhau gyrfa llawrydd fel pianydd a thelynores. Ar hyn o bryd mae hi’n dysgu piano yn Ysgol Y Brenin, Caer yn ogystal ag yn ei stiwdio gartref ym Mynydd Isa. Ochr yn ochr â dysgu, mae hi’n mwynhau gyrfa berfformio brysur ac amrywiol. Mae hi wedi perfformio gyda llawer o gerddorfeydd ledled y wlad gan gynnwys NEW Sinfonia, Cerddorfa Ffilharmonig Lerpwl a Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham. Yn gerddor siambr brwd, mae Bethan yn aelod o’r grŵp Ffliwt a Thelyn, ‘Hefin Duo’ yn ogystal â ‘Trilogy’, triawd ffliwt, telyn a fiola. Mae Bethan hefyd wedi gweithio fel cyfeilydd i wahanol gorau gan gynnwys NEW Voices, Opera Ieuenctid WNO a Chantorion Rhos. Enillodd Bethan Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama yn 2017 a dychwelodd i’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig gyda Ysgoloriaeth Teulu Ashley. Graddiodd Bethan gyda Meistr Perfformio gyda Rhagoriaeth yn 2019 ac ar ôl cwblhau ei hastudiaethau dyfarnwyd iddi y wobr fawreddog ‘Queen Elizabeth, The Queen Mother Rose Bowl’.

Iwan Llewelyn-Jones

Iwan Llewelyn-Jones

Wedi’i ddisgrifio gan y Daily Telegraph fel ‘pianydd o flas, hyder a sensitifrwydd chwaethus di-fai’, mae Iwan Llewelyn-Jones wedi sefydlu ei hun fel un o bianyddion gorau ei genhedlaeth. Mae wedi perfformio mewn llawer o neuaddau cyngerdd mawreddog y byd gan gynnwys Neuadd Wigmore, Neuadd y Frenhines Elizabeth, Gewandhaus Leipzig, a Thŷ Opera Sydney. Iwan yw Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Piano Ryngwladol Cymru 2025, ar ôl curadu’r ddwy Ŵyl flaenorol yn 2016 a 2021. Mae wedi derbyn sawl gwobr ac anrhydedd, gan gynnwys Gwobr Syr Geraint Evans i gydnabod ei gyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Cymru. Mae Iwan yn Artist Steinway ac mae’n cyfuno amserlen berfformio ryngwladol brysur â’i rôl fel Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Perfformio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Dosbarthiadau’r Diwrnod Piano

Dosbarthiadau Graddedig

ABRSM, Trinity Guildhall neu London College of Music

Dos. Safon (gradd) Gofynion Cyfyngiad Amser
1 Cyn-gradd 1 Dau neu dri darn gwrthgyferbyniol 2 mun
2 1 Dau neu dri darn gwrthgyferbyniol 3 mun
3 2&3 Dau ddarn gwrthgyferbyniol 4 mun
4 4&5 Dau ddarn gwrthgyferbyniol 5 mun
5 6&7 Hunan-ddewisiad 6 mun
6 8 Hunan-ddewisiad 8 mun

 

Dosbarthiadau Cyfnodol / Arddulliol

Dosbarth Teitl Dosbarth
Oedran Gofynion
Cyfyngiad Amser
7 Baróc 1650-1750 Dan 18 Un neu ddau ddarn 6 mun
8 Clasurol
1751-1820
Dan 18 Un neu ddau ddarn 6 mun
9 Rhamantaidd
1821-1910
Dan 18 Un neu ddau ddarn 6 mun
10 20fed-21ain Ganrif
1911 – presennol
Dan 18 Un neu ddau ddarn 6 mun
11 Jazz, Ragtime & Blues Dan 12 Un neu ddau ddarn 3 mun
12 Jazz, Ragtime & Blues 12-18 Un neu ddau ddarn 4 mun

 

Dosbarthiadau Cyffredinol

Dosbarth

Teitl Dosbarth

Oedran

Gofynion

Cyfyngiad Amser

13

Astudio ers 12 mis neu lai

10 oed ac iau

Un neu ddau ddarn

2 mun

14

Astudio ers 12 mis neu lai

11-17  oed

Un neu ddau ddarn

3 mun

15

Oedolyn: Safon i fyny at Gradd 5

Dros 18

Un neu ddau ddarn

5 mun

16

Oedolyn: Safon Gradd 5+

Dros 18

Dau ddarn gwrthgyferbynionl

7 mun

17

Datganiad

Dan 14

Hunan-ddewisiad

7 mun

18

Datganiad

14-17 oed

Hunan-ddewisiad

10 mun

19

Datganiad

Dros 18

Hunan-ddewisiad

12 mun

 

Deuawdau Piano

Dosbarth

Teitl Dosbarth

Oedran Gofynion
Cyfyngiad Amser

20

Deuawd: Athro(awes) a Disgybl ar 1 piano

Agored Hunan-ddewisiad
Disgybl o safon dechreuwr i radd 3
3 mun

21

Deuawd: 1 piano

Agored Hunan-ddewisiad 6 mun

22

Deuawd: 2 piano

Agored Hunan-ddewisiad 6 mun

 

Cofrestrwch i Gymryd Rhan!

Ffi: £10 y person (i gymryd rhan mewn hyd at 3 dosbarth) yna £3 am bob dosbarth ychwanegol.

Cofrestrwch yma rhwng 13 Hydref a 16 Tachwedd 2025.

Rheolau a Chyfarwyddiadau Pellach

  • Mae croeso i bianyddion o unrhyw wlad drwy’r byd i gymryd rhan yn y Diwrnod Piano.
  • Rhaid bod o fewn yr oedran perthnasol ar y diwrnod cynhelir y Diwrnod Piano.
  • Am y ffi gofrestru o £10 gellir cymryd rhan mewn hyd at 3 dosbarth (os o fewn yr oedran), a £3 am bob dosbarth ychwanegol.
  • Yn y dosbarthiadau graddedig, (dosbarthiadau 2-6) gall y darnau fod o faes llafur ABRSM, Trinity Guildhall neu London College of Music o unrhyw flwyddyn. Yn achos dosbarth rhif 1 gellir perfformio unrhyw ddarnau sydd o safon cyn gradd 1. Rydym yn ymwybodol bod rhai pianyddion rhwng dau radd ac yn dysgu darnau eraill cyn symud ymlaen i’r gradd nesaf. Yn yr achos yma dylai eu tiwtor asesu pa ddosbarth gradd sydd agosaf ar safon y darnau rheini.
  • Mae modd chwarae yr un darn(au) mewn mwy nag un dosbarth.
  • Deuawdau – Dim ond un aelod o bob deuawd sydd angen cofrestru (a thalu) ond bydd lle i nodi enw’r partner deuawd ar y ffurflen gofrestru.
  • Mae dyfarniadau y pianyddion proffesiynol yn derfynol ac ni ellir eu herio.
  • Rhaid cadw o fewn y cyfyngiad amser a nodwyd.
  • Ar ôl y dyddiad cau bydd y trefnwyr yn llunio amserlen gan ystyried pa ddosbarthiadau mae bob pianydd  yn cymryd rhan ynddynt. Y nod yw bod y pianyddion yn eistedd i mewn am gymaint a phosibl o’u dosbarth er mwyn cefnogi ei gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd. Ar ddiwedd bob dosbarth bydd y pianyddion proffesiynol yn rhoi adborth ar lafar cyn symud ymlaen i’r dosbarth nesaf.
  • Os yw pianydd yn tynnu allan am unrhyw reswm ar ôl cofrestru, ni ad-delir y ffi gofrestru.