Gŵyl Biano
Ryngwladol Cymru

15 – 18 Hydref 2021

Am yr Ŵyl

Wedi ei threfnu gan Canolfan Gerdd William Mathias ac o dan gyfarwyddyd artistig y pianydd rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones, bydd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2020 (nawr yn digwydd yn 2021) yn cynnwys tair prif elfen – perfformiadau, cystadlaethau a gweithgareddau addysgol.

Bydd yr ŵyl yn talu teyrnged i Ludwig van Beethoven a’i gyfraniad aruthrol i fyd y piano wrth i 2020 nodi 250 mlynedd ers ei eni. Bydd themâu eraill yr ŵyl yn cynnwys canmlwyddiant marwolaeth Saint-Saëns yn 2021 a hyrwyddo cerddoriaeth newydd o Gymru.

Bydd yr Ŵyl yn gyfuniad o ddigwyddiadau ar-lein a digwyddiadau byw yn Galeri Caernarfon.

Noddwr Anrhydeddus: John Lill CBE
Llywydd Anrhydeddus: John Metcalf MBE

Ein Cystadlaethau

Canlyniadau Cystadleuaeth Piano Unawdol Iau

1af – Benji Lock

2ail – Charlotte Kwok

Ymgeiswyr Cylch Terfynol – Firoze Madon, Safiye Sahin, Claire Wang

Y pianydd mwyaf addawol sydd heb eu dewis i’r cylch terfynol:      Stella Vachtanidou

Beirniaid: Clara Rodriguez  & Richard Ormrod

Canlyniadau Cystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn

1af – Tomos Boyles

2il – Ellis Thomas

Ymgeiswyr Cylch Terfynol – Luke Jones & Connor Heraghty

Perfformiad gorau o ddarn gan Beethoven: Connor Heraghty

Perfformiad gorau o ddarn wedi ei cyfansoddi ar ôl 1950: Tina Pik-Ying Cheung

Beirniaid: Geraint Lewis, Robert Markham, Roy Howat

Canlyniadau Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano

Cydradd 1af – Ellis Thomas & Edward Leung

Ymgeiswyr Cylch Terfynol – Julia Klimek & Yiwei Ji

Perfformiad gorau o’r gân Gymreig: Yiwei Ji

Beirniaid: Harvey Davies, Simon Phillippo, Richard Craig

Alys Roberts (soprano), Sara Trickey (ffidil), Ryan Vaughan Davies (tenor), Richard Craig (ffiwt)

Cyngerdd Agoriadol yr Ŵyl: Llŷr Williams

Ar gael o 7:30pm, 15 Hydref, tan 10:00pm, 18 Hydref
Cyngerdd Rhithiol

Schubert: Impromptu D.935 No.2
Beethoven: Sonata Rhif 18 yn E feddalnod fwyaf
Chopin: Nocturne yn D feddalnod fwyaf Op.27 No.2
Chopin: Sonata no.2 yn B-feddalnod leiaf, op.35

Cyngerdd Comisiynau’r Ŵyl & Beethoven Archduke Trio

16 Hydref 2021, 7:30pm, Cyngerdd Rhithiol

Rhan 1: Gweithiau Comisiwn yr Ŵyl
Joseph Davies – ap Huw Sampler
Bethan Morgan-Williams – Cusan Aderyn
Pwyll ap Sion – Die verrückten mädchen von
Sarah Lianne Lewis – Clychau

Rhan 2: Beethoven – Archduke Trio

Artistiaid: Sara Trickey (ffidil), Sebastian Van Kuijk (sielo), Iwan Llewelyn-Jones (piano), Alys Roberts (soprano)

Cyngerdd Carnival of the Animals gan Saint-Saëns

17 Hydref 2021, 6:30pm, Cyngerdd Rhithiol

Glian Llwyd a Teleri-Sian (piano), Elin Taylor (cello), Catrin Toffoc a Mair Tomos Ifans (storïwyr) gyda chyfaniad gan blant Ysgol Edmwnd Prys, Gellilydan ac Ysgol Cybi, Caergybi.

Ar y Gorwel: Gwenno Morgan

Dydd Sadwrn, 16 Hydref, 3:30 – 4:15pm, Sgwâr Galeri

Cyfres o gyfansoddiadau breuddwydiol a minimalistig – yn cynnwys trefniannau o alawon gwerin Cymreig, ynghyd â darnau gwreiddiol sinematig oddi ar ei EP cyntaf, CYFNOS.

Sonant

Dydd Sul, 17 Hydref, 1:00pm-1:45pm –  Sgwâr Galeri

Sian James a Sioned Webb

Penllanw’r Cystadlu

Cylch Terfynol y Gystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn

18 Hydref 2021
11:15am, Theatr Galeri

Dewch i wrando ar y 4 pianydd sydd wedi cyrraedd y brig yn perfformio rhaglen o gerddoriaeth unawdol heb fod yn hwy na 25 munud.

Pris: £6 y sesiwn
neu £10 am y diwrnod

Prawf Terfynol y Gystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano

18 Hydref 2021
2:30pm, Theatr Galeri

Dewch i glywed y pedwar cyfeilydd sydd wedi cyrraedd y brig yn perfformio gyda’r Soprano Alys Mererid Roberts a’r fiolinydd Sara Trickey.

Pris: £6 y sesiwn
neu £10 am y diwrnod

Mae croeso cynnes i’r cyhoedd ddod i wylio cylchoedd cyntaf a therfynol y cystadlu yn fyw yn Galeri Caernarfon. Gweld yr amserlen.

Os yn dod i wylio digwyddiadau’r Ŵyl yn fyw yn Galeri, cofiwch:

Wisgo gorchudd wyneb (os nad wedi eich eithrio)

Ddilyn y system un ffordd

Cofrestru eich presenoldeb wrth ddesg yr Ŵyl yn y cyntedd

Cymryd prawf lateral flow adre cyn dod os yn bosibl

Ein Noddwyr

Caiff Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru ei drefnu gan Canolfan Gerdd William Mathias.

Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr cerddoriaeth yn ei chanolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun a drwy ei phrosiectau cymunedol drwy Gymru.